Wednesday, 10 June 2009

Cam

Mae’r statws yn dweud ‘segur’,
dwi di bod yn checio
am hanner awr.
Mae ei glebran wedi sychu lan,
di diflannu fel y gwin gwyn
yn fy ngwydryn;
a nawr mae’r lleuad yn sibrwd ei
diffyg amynedd, eisiau mynd i’r gwely.
Ar fin y nos, dyma fi
dal yn aros i’r neges, aros
i’r bîp neu’r bing.
Yn oer heb fy ngŵn llofft,
yn ymwybyddu galwadau fy nghorff.
Mae o wedi dianc.
Mae’r haul yn synnu, roedd o wedi
rhoi sioe anghrediniol.

No comments:

Related Posts with Thumbnails