Hi a'r enw Gog
Hoffwn awgrymu
ond dydy fy syniadau i
ddim yn ddigon cas,
hoffwn weld ti yn y stryd
heb dy ddillad;
yn y pwll nofio gyda siarc;
yn Rhydaman heb dy ffrindiau.
Mae’n un peth i waeddu ‘blaidd’,
ond yn rhywbeth arall
i gnuchi’r blaidd lan lofft.
Cewn ni geiriau gwd gyrl.
Cewn ni sgwrs.

No comments:
Post a Comment